Yn Canvas Studio, gallwch ddileu cwisiau fideo o'r cyfryngau yn eich llyfrgell Studio.
Nodyn: Mae dileu cwis fideo yn dileu'r cwis a'i holl gynnwys o Studio yn barhaol. Ni ellir adfer cynnwys sydd wedi'i ddileu.
Gweld y Llyfrgell
Yn nhudalen Fy Llyfrgell, mae cyfryngau sy'n cynnwys cwis fideo yn dangos yr eicon Cwis.
Agor y Ffenestr Golygu
Lleolwch y cyfryngau sy'n cynnwys y cwis rydych chi am ei ddileu a chliciwch ar yr eicon Mwy o Ddewisiadau [1].
Cliciwch y ddewislen ostwng Cwisiau [2]. Yna, cliciwch y ddolen Golygu [enw'r cwis] [3].
Agor Gosodiadau
Cliciwch yr eicon Gosodiadau [1].
Mae ffenestr Gosodiadau Cwis Fideo yn ymddangos. I ddileu'r cwis, cliciwch y botwm Dileu Cwis [2].
Cadarnhau Dileu
Mae'r ffenestr gadarnhau yn ymddangos. I gadarnhau eich bod am ddileu'r cwis a'i holl gynnwys yn barhaol, cliciwch y botwm Dileu .