Os byddwch yn derbyn e-bost yn eich croesawu i Canvas Studio, mae angen i chi wirio'ch cyfrif drwy sefydlu cyfrinair. Defnyddir y cyfrinair hwn i gael mynediad at safle Studio penodol ar wahân i Canvas. Pan fyddwch yn derbyn y gwahoddiad i'r cyfrif, bydd y dudalen mewngofnodi yn dangos yr URL y dylech ei ddefnyddio i reoli a chael mynediad at Studio.
Yn fwyaf cyffredin, dim ond at ddefnyddwyr sydd wedi cael gwahoddiad i Studio fel gweinyddwyr y mae gwahoddiadau e-bost yn cael eu hanfon. Gallwch reoli eich gosodiadau gweinyddol Studio yn Canvas.
Ar hyn o bryd nid yw'r cyfrinair rydych chi'n ei greu ar gyfer eich safle Studio yn cydamseru â'ch mewngofnod Canvas, felly i gael y canlyniadau gorau, crëwch yr un cyfrinair ar gyfer Studio ag yr ydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer Canvas. Os dewiswch gyfrinair gwahanol, gallwch ailosod eich cyfrinair yn eich safle Studio ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r ddolen ailosod cyfrinair.
Os yw eich sefydliad yn galluogi dilysu Canvas, gallwch fewngofnodi i'ch gwefan Studio gan ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi Canvas.
Ac eithrio dewislen defnyddiwr safle Studio, mae safleoedd Studio yn arddangos yr un cynnwys ag a geir mewn cyfrif Studio.