Agor Adroddiadau Cynnydd
Yn y ddewislen Llywio Byd-eang, cliciwch y ddolen Dadansoddeg [1]. Yna, yn yr adran Adroddiadau Gweinyddol, cliciwch y ddolen Adroddiadau Cynnydd [2].
Ailagor Adroddiad Cynnydd
Dewch o hyd i'r adroddiad cynnydd a'r term ar gyfer y ffenestr sylwadau yr hoffech ei hailagor. Yna cliciwch y ddolen Ailagor .
Anfon E-bost Hysbysu
I hysbysu athrawon drwy e-bost eu bod nhw unwaith eto’n cael ychwanegu sylwadau newydd neu olygu rhai sy’n bodoli eisoes, yn y ffenestr Gwneud Adroddiad Ar Gael ar gyfer Mewnbynnu Data, nodwch neges ddewisol yn y maes neges [1]. Yna, cliciwch y botwm Anfon [2].
Adfywio Adroddiad Cynnydd a Chau'r Tymor
Ar ôl i athrawon ychwanegu neu olygu sylwadau, rhaid i chi gynhyrchu'r adroddiad eto. Yn y dudalen Adroddiadau Cynnydd a Grewyd, lleolwch yr adroddiad cynnydd a'r tymor. Cliciwch y ddewislen ostwng Cynhyrchu [1], yna dewiswch yr opsiwn Cynhyrchu Adroddiad Llawn a Chau'r Tymor [2]. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n canllaw ar gynhyrchu adroddiadau cynnydd .